Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (50) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30.
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.23.
3. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Mynd i’r Afael â Masnachu Mewn Pobl yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 14.33.
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Dechreuodd yr eitem am 15.12.
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Glastir – gweithredu’r cynllun
Dechreuodd yr eitem am 16.00
6. Dadl ar y Gyllideb Atodol
Dechreuodd yr eitem am 16.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4914 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011-12 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 7 Chwefror 2012.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
· nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
21 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.12
Daeth y cyfarfod i ben am 17.13
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mercher, 7 Mawrth 2012